Bore ma wnes i bicio i farchnad bwyd lleol yn y Ganolfan, Porthmadog. Dwi'n gobeithio gallu defnyddio cyflenwyr mor lleol a phosib ar gyfer y caffi felly roedd gen i ddiddordeb i weld pwy oedd yno.
Do'n i rioed di bod i'r Ganolfan o'r blaen ac o'n i wrth fy modd i weld yr arwyddio dwyiethog hyfryd o'r 70au (?) ar y drysau. Os fyddan nhw byth yn meddwl newid nhw, fi di'r cynta yn y ciw - ocê?
Roedd y lle'n brysur iawn erbyn cyrraedd y brif ystafell
Cynan a June a'u madarch enwog oedd y bobl cyntaf i nghyfarch efo gwên o groeso. Ges i sgwrs hir a difyr efo Cynan, clywed am un daith lle ffeindiodd o 20kg o ceps a sticio nhrwyn mewn jar gan arogli rhywbeth cryf a sawrus. Waw! Es i yn fy mlaen efo madarch shitake sych a ffres.
Dros y ffordd oedd Emma o Village Veg, Waunfawr. Da ni'n cael sach wythnosol ganddyn nhw yn barod a'u llysiau nhw wnaethon ni ddefnyddio ( a gwerthu) yn Cegin cyn y 'dolig. Roedd hi'n gwerthu tatws glas ar gyfer eu hau ac mi brynais i ddwy baced ganddi i'r ardd.
Enillwyr gwobr Blas a Dawn Gwynedd oedd ar y stondin nesa sef fferm Tyddyn Dafydd, Pen Llŷn. Ges i focs o wyau i drio ganddyn nhw.
Roedd 'na dipyn o gynhyrchwyr cig yno - Traed Moch, Oinc Oink a Parc Glasfryn (lle wnes i bryni ffesant bach am chydig dros deirpunt) ond doedd na neb yn gwybod lle faswn i'n cael cyw iar free range i'r caffi yng Ngwynedd. Mae 'na gyfle i rywun fan'na swn i'n deud.
Ar ôl prynu botel o sudd Aerona (sy'n ofnadwy o iachus mae'n debyg) a chael hanes difyr iawn yr arbrawf i'w tyfu nhw yng Ngwynedd gan OP Huws. Mae'r llwyni'n tyfu'n dda ar dir sur on mae nhw eto i weld a fydd y fenter yn troi'n fusnesau llwyddiannus i'r tri tyfwr sy'n ran ohoni.
Cyn gadael gesi sgwrs ddifyr arall efo boi Kwrdaidd sy'n cadw becws Model ym Mlaenau Ffestiniog - wnes i ddim dal ei enw yn iawn ond mae o wedi patentio pastai Kwrdaidd oedd yn swnio'n hyfryd ond oedd, yn anffodus i mi, wedi hen gwerthu allan, fel yr oedd y bara, ond mi brynais i gacen cnau ffrengig a choffi i fynd adra at Steve.
Fedrai'm dod i Port heb sganio'r siopau elusennol ac mi ges i ambell i fargen i'r caffi ac i'r tŷ ar ôl bod ym mhob un.
Caffi'r Graig Fawr am salad bach, dau goffi, cacen 50c a thipyn bach o 'industrial espionage' wedyn - dwi'n meddwl wna'i ddwyn y cacenni 50c - a dwi'n barod i droi am adra i wneud rywbeth efo ffesant a madarch shitake...
O, a dwi di holi ambell un o'r cynhyrchwyr a fasen nhw'n licio dod i werthu mewn marchnad yng Nghaernarfon yn rheolaidd. Mi oedden nhw i gyd yn awyddus iawn. Mae 'na help wedi bod ar gael efo sefydlu un Port ond mae'r cynllun yna wedi dod i ben. Dwi'n siwr bod 'na ffordd o wneud i hyn weithio ac mae Mirain, sy'n gweithio i Annog am roi mwy o wybodaeth i mi yn fuan.
Gwyliwch y gofod!
Cwestiwn i bobl fasa'n dod i'r farchnad... ar ba ddiwrnod fyddech chi'n hoffi gweld marchnad bwydydd lleol yn dre?